Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Adolygu ar gyfer Iechyd Meddwl

Rydym yn monitro'r defnydd o'r Ddeddf Iechyd Meddwl a diogelu buddiannau pobl y mae eu hawliau wedi eu cyfyngu dan y Ddeddf honno.

Swyddogaeth y Gwasanaeth Adolygu ar gyfer Iechyd Meddwl, sy’n rhan o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), yw adolygu’r defnydd a wneir o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a sicrhau bod yn cael ei defnyddio’n iawn ar rhan Gweinidogion Cymru.  

Mae’r Gwasanaeth Adolygu yn annibynnol o holl staff a rheolwyr ysbytai a thimau iechyd meddwl.  Mae Adolygwyr y Ddeddf Iechyd Meddwl yn cynnwys meddygon, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, cyfreithwyr, seicolegwyr, defnyddwyr gwasanaeth ac eraill sy’n gyfarwydd â’r Ddeddf Iechyd Meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl.  

Mae'r gwasanaeth adolygu yn cyhoeddi adroddiad am ei weithgareddau a’i ganfyddiadau bob flwyddyn.
 

Beth mae'r adolygwyr yn ei wneud?

Mae'r Gwasanaeth Adolygu yn ymchwilio i rai mathau o gwynion ac adolygwyr yn ymweld â  cleifion lle cedwir o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a chânt hefyd ymweld â lleoliadau eraill i gyfarfod â chleifion sydd o dan warcheidwaeth neu driniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth i sicrhau bod:

  • cleifion yn cael eu cadw’n gyfreithlon ac yn derbyn gofal da;
  • cleifion yn cael gwybod am eu hawliau o dan y Ddeddf;
  • cleifion yn cael eu parchu am eu rhinweddau, eu galluoedd a’u cefndiroedd amrywiol fel unigolion, ac yr ystyrir eu hanghenion yn ôl oedran, rhyw, tueddfryd rhywiol, cefndiroedd cymdeithasol, ethnig, diwylliannol a chrefyddol;
  • bod cleifion yn cael eu galluogi i fyw mor foddhaus bywyd ag y bo modd;
  • Cod Ymarfer y Ddeddf Iechyd Meddwl i Gymru yn cael ei ddilyn; ac
  • y cynlluniau cywir yn cael eu llunio ar gyfer cleifion cyn iddynt gael eu rhyddhau o’r ysbyty.

Yn ystod ymweliadau, bydd Adolygwyr yn siarad â chleifion a gedwir dan orchymyn yn breifat, yn ogystal meant yn cwrdd â rheolwyr a staff eraill i drafod materion sy’n effeithio ar ofal a thriniaeth cleifion, a chodi materion ar eu rhan. 

 

Beth na all y Gwasanaeth Adolygu ei wneud

Ni all y Gwasanaeth Adolygu:

  • rhyddhau cleifion o’r gorchymyn a roddwyd arnynt o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl;
  • rhyddhau cleifion o’r ysbyty;
  • trefnu i gleifion gael gadael y lle dros dro;
  • trosglwyddo cleifion i ysbyty arall;
  • gynnig cyngor meddygol unigol;
  • gynnig cyngor cyfreithiol unigol; ac
  • gynorthwyo cleifion anffurfiol.

Y rheswm am hyn yw bod y gyfraith yn bendant iawn ynghylch yr hyn y cawn a’r hyn na chawn ei wneud, ac nid oherwydd ein bod yn amharod i helpu.  Gall y Gwasanaeth Adolygu eich cynghori am leoedd eraill a allai ddarparu’r cymorth hwn.

 

Feddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn (SOAD)

Bydd y Gwasanaeth Adolygu’n trefnu i feddyg annibynnol, a alwir yn Feddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn (SOAD) ddarparu ail farn os nad yw claf yn gallu cydsynio neu’n anfodlon i gydsynio â’r driniaeth y bydd yn ei derbyn. 

Cewch gysylltu â’r tîm Gwasanaeth Adolygu Iechyd Meddwl ar y cyfeiriad isod.


Gwasanaeth Adolygu ar gyfer Iechyd Meddwl
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Llywodraeth Cymru
Parc Busnes Rhydycar
Merthyr Tudful
CF48 1UZ
Ffon: 0300 062 8327
E-bost: rsmh@llyw.cymru

Sylwer: Rydym yn adolygu'r canllawiau hyn a bydd yn cael ei ddiweddaru'n fuan.