Neidio i'r prif gynnwy

Mae angen i'r hyn sy'n bwysig i'r unigolyn fod wrth wraidd gofal gyd-gysylltiedig, yn ôl adolygiad gan AGIC o gwympiadau ymysg pobl hŷn

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi canfod bod angen newid diwylliant drwy edrych ar ymddygiadau bob dydd pawb sy'n ymwneud ag atal a gofal cwympiadau er mwyn cyflawni'r gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n rhoi'r hyn sy'n bwysig i'r unigolyn yn gyntaf.

Mae'r canfyddiad yn deillio o adolygiad cenedlaethol o'r llwybr gofal integredig ar gyfer cwympiadau ymysg pobl dros 65 oed yng Nghymru: Adolygiad o Ofal Integredig – Canolbwyntio ar Gwympiadau. Y llwybr cwympiadau yw'r term a roddir i'r llwybr drwy'r holl wasanaethau y gall rhywun sydd mewn perygl o gwympo, neu sydd wedi cwympo'n barod, ei ddilyn.

Mae cwympo yn broblem gyffredin i bobl hŷn, gydag un o bob thri pherson dros 65 oed yn debygol o gwympo yn ystod y 12 mis nesaf.  Mae'r rhif hwnnw'n codi i un o bob dau ymysg y rhai hynny sydd dros 80 oed.

Gall cwympiadau arwain at ganlyniadau corfforol a seicolegol difrifol i bobl hŷn ac mae eu driniaeth a’u ail-alluogi yn gostus.

Canfu AGIC hefyd y gallai gwasanaethau weithio'n well gyda'i gilydd i atal cwympiadau ymysg pobl hŷn a'u trin a'u hail-alluogi ar ôl cwympo.

Mae'r adroddiad yn gwneud wyth argymhelliad allweddol ac yn tynnu sylw at ddysgu ar gyfer staff sy'n gweithio gyda phobl hŷn sy'n wynebu risg o gwympo yn ogystal â rheolwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'n argymell y dylid llunio fframwaith cwympiadau cenedlaethol i Gymru, er mwyn safoni'r dulliau atal, trin ac ail-alluogi pobl hŷn sy'n wynebu'r risg o gwympo neu sydd wedi cwympo'n barod.

Mae hefyd yn argymell y dylai pob bwrdd iechyd weithio'n agos gydag awdurdodau lleol yn ei ardal i lunio llwybr safonol lleol ar gyfer cwympiadau, sydd hefyd yn gyson â'r fframwaith cenedlaethol.

Dywedodd Stuart Fitzgerald, Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

Mater i bawb yw cwympiadau. Mae cwympiadau'n effeithio ar nifer o bobl hŷn a bydd triniaeth a gofal ail-alluogi mwy cyd-gysylltiedig yn arwain at ganlyniadau gwell i bobl hŷn sy'n cwympo ac yn cynnal ansawdd eu bywyd.

Dro ar ôl tro, mae canfyddiadau ein hadolygiadau'n dangos bod canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i gleifion yn bwysig wrth helpu i wella canlyniadau.

Rydym wedi dod o hyd i enghreifftiau o arfer gwych, ond yn amlach na pheidio, mae'r gofal yn amrywio rhwng ardaloedd gwahanol a gall diffyg cydgysylltu rhwng gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau gwirfoddol fod yn rhwystr i ddarparu gofal o'r ansawdd gorau.

Tynnodd ein hadolygiad sylw at enghreifftiau o arfer da, yn ogystal ag agweddau eraill ar wasanaethau y gellid eu gwella. Bydd staff a swyddogion gwneud penderfyniadau yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol am ystyried y ffordd y gallai'r themâu yn yr adolygiad effeithio ar y gwasanaethau y maent yn eu darparu.