Neidio i'r prif gynnwy

Safonau gofal uchel ond pryderon parhaus mewn rhai meysydd, dywed Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ei Hadroddiad Blynyddol diweddaraf

Yn ei hadroddiad blynyddol a gyhoeddwyd heddiw [dydd Mawrth 6 Awst 2019], mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi crynhoi canfyddiadau mwy na 170 o arolygiadau a chwe adolygiad cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ystod 2018-19.

Fel y sefydliad sy'n sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael gofal iechyd o ansawdd da, mae AGIC yn arolygu amrywiaeth eang o wasanaethau gan gynnwys ysbytai, deintyddion, clinigau, timau iechyd meddwl cymunedol ac unedau iechyd meddwl, a meddygfeydd o fewn saith bwrdd iechyd y GIG yng Nghymru a'r sector gofal iechyd annibynnol.

Drwy ei gwaith, gwelodd AGIC enghreifftiau o arfer da a nododd fod pobl a oedd yn cael gwasanaethau yn fodlon, ar y cyfan, ar y gofal roeddent yn ei gael ac yn gwerthfawrogi'r gwaith a oedd yn cael ei wneud gan staff ymroddedig ac ymrwymedig.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at yr heriau sy'n wynebu gwasanaethau iechyd a nifer o themâu sy'n ailgodi, gan gynnwys:

  • Mae lefelau staffio mewn ysbytai yn parhau i fod yn her sylweddol
  • Y ffaith bod y cyhoedd yn dal i wynebu anawsterau o ran cael apwyntiad amserol gyda meddyg teulu
  • Mae pob sector yn dal i wynebu problemau o ran storio a rhoi meddyginiaethau'n ddiogel
  • Pryderon ynghylch y ffordd y mae triniaeth a gofal mewn lleoliadau iechyd meddwl yn y GIG a'r sector annibynnol yn cael eu cynllunio

Meddai Dr Kate Chamberlain, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

Ar y cyfan gwelsom safon uchel o ofal iechyd yn cael ei ddarparu i gleifion. Yn benodol, roedd ein harolygiadau o ddeintyddfeydd yn dda iawn ar y cyfan gyda rhai ohonynt yn cael adroddiadau ardderchog. 

Fodd bynnag, roedd yn amlwg o'n harolygiadau o ysbytai yn arbennig, fod gwasanaethau yn parhau i wynebu heriau sylweddol o ran lefelau staffio. Dangosodd ein harolygiadau o feddygfeydd fod cael apwyntiadau amserol yn broblem sy'n parhau i godi dro ar ôl tro. 

Yn y rhan fwyaf o'n harolygiadau o bob lleoliad, mae'r broses o storio a rhoi meddyginiaethau'n ddiogel yn dal i fod yn broblem. Mae hyn yn siomedig am ei bod yn broblem sydd wedi'i nodi mewn adroddiadau blynyddol blaenorol, ac er bod rhai byrddau iechyd a lleoliadau wedi gwneud gwelliannau, nid yw eraill yn mynd i'r afael â'r broblem o hyd.