Neidio i'r prif gynnwy

Rhannu myfyrdodau cyn y gaeaf – Llythyr ar y cyd gan AGIC ac AGC i bob Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth y GIG ac Awdurdod Lleol

Mae Prif Weithredwyr Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Gillian Baranski ac Alun Jones, wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at brif weithredwyr awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG ledled Cymru i rannu rhai o'r prif faterion sydd wedi codi yn eu gwaith dros y chwe mis diwethaf. Mae'n amlwg y bydd angen mynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn genedlaethol ac yn lleol, a'r gobaith yw y byddant yn cael eu hystyried wrth gynllunio a gwella ar gyfer yr hyn a fydd, heb os, yn aeaf heriol i'r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae'r llythyr yn nodi nifer o feysydd, gan gynnwys pwysigrwydd y gallu i gael gafael ar gyfarpar diogelu personol a phrofion COVID yn hawdd ac yn brydlon, yn ogystal â hyfforddiant ar atal a rheoli heintiau.  Mae'r arolygiaethau hefy\fd yn pwysleisio bod yn rhaid cynnwys pobl sy'n derbyn gofal iechyd a gofal cymdeithasol, neu eu teuluoedd neu eiriolwyr, wrth wneud penderfyniadau am ofal y person hwnnw. Gan gydnabod y pwysau y mae staff gofal iechyd a gofal cymdeithasol wedi eu hwynebu a'r effaith y gall cyfnod anodd o'r fath ei chael ar les staff, anogir uwch-swyddogion i gefnogi ac annog staff i leisio eu barn.

Mae testun llawn y llythyr wedi'i gynnwys isod.

 

At Brif Weithredwyr pob Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth ac Awdurdod Lleol yng Nghymru

2 Hydref 2020

Annwyl Brif Weithredwr

Rhannu myfyrdodau cyn y gaeaf

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod digynsail i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r gwasanaethau cyhoeddus wedi gweithio'n galed i ymateb i'r her a wynebwyd yn sgil pandemig y Coronafeirws. Mae wedi bod yn gadarnhaol gweld partneriaethau gwell rhwng cyrff iechyd ac awdurdodau lleol sy'n cydweithio'n hyblyg i gyflawni'r nod cyffredin o sicrhau y gellir rheoli effaith y pandemig.

Wrth i bob sefydliad fynd ati i fyfyrio a dysgu o'i ymateb i'r pandemig, rydym wedi cydweithio fel arolygiaethau dros y chwe mis diwethaf i ystyried a rhannu rhai o'r materion pwysicaf sy'n deillio o'n gwaith ein hunain ac sydd wedi cael eu codi gyda ni. Mae angen mynd i'r afael â'r materion hyn yn genedlaethol ac yn lleol, ac rydym yn gobeithio y cânt eu hystyried wrth wneud gwaith cynllunio a gwella ar gyfer gaeaf a fydd, yn siŵr o fod yn un anodd i'r system iechyd a gofal. Y materion hyn yw:

  • Pwysigrwydd dull sy'n seiliedig ar hawliau, gan sicrhau bod pobl sy'n cael gofal cymdeithasol a gofal iechyd, a'u teuluoedd neu eu heiriolwyr yn cael eu cynnwys yn y broses gwneud penderfyniadau. Mae hyn yn cynnwys cydnabod manteision prosesau cynllunio gofal ymlaen llaw, gan gynnwys sicrhau y gwneir penderfyniadau Na Cheisier Dadebru Cardio-Anadlol (DNACPR), neu yr ystyrir penderfyniadau o'r fath, ar sail unigol ac er budd pennaf y person.

 

  • Cydnabod, a lleihau i'r graddau sy'n bosibl, yr effaith ar les meddyliol llawer o bobl a berir gan y ffaith nad oes modd iddynt ymweld â'u teuluoedd a'u ffrindiau

 

  • Pwysigrwydd cael strategaeth gyfathrebu gydgysylltiedig sy'n lleihau dyblygu ac yn nodi'n glir faterion allweddol a newidiadau i'r canllawiau

 

  • Mynediad parhaus at hyfforddiant a chymorth ar atal a rheoli heintiau

 

  • Sicrhau bod digon o gyfarpar diogelu personol ar gael yn hawdd a bod pobl yn ddeall sut i'w ddefnyddio

 

  • Sicrhau bod modd cael profion yn hawdd a chael y canlyniadau’n brydlon

 

  • Pwysigrwydd rhwydweithiau cymorth i reolwyr a gweithwyr gofal, gan gydnabod bod llawer o'r darparwyr bach yng Nghymru mewn lleoliadau ynysig

 

  • Pwysigrwydd parhad staff o ganlyniad i'r risg uwch o staff asiantaeth yn lledaenu'r feirws os byddant yn gweithio mewn sawl gwasanaeth gwahanol

 

  • Cydnabod mai partneriaid mewn gofal yw darparwyr, yn arbennig mewn perthynas â rhyddhau cleifion o'r ysbyty, ac mae aelodau teuluoedd yn bartneriaid hefyd i lawer o bobl. Cydnabod bod angen cyfathrebu cydgysylltiedig, cynlluniau ar gyfer rhyddhau cleifion yn amserol a gwybodaeth fanwl ac amserol ynghylch rhyddhau cleifion er mwyn gallu gwneud hynny'n llwyddiannus. Cymryd camau priodol a rhoi mesurau priodol ar waith ym mhob rhan o'r sector iechyd a gofal i sicrhau bod y sector gofal yn cael mewnbwn digonol ac amserol gan wasanaethau gofal sylfaenol, yn benodol gan feddygon teulu.

 

  • Sicrhau y caiff cleifion eu symud yn ddiogel ac yn amserol mewn ambiwlans, p'un a oes angen anfon y cleifion hyn i'r ysbyty o leoliad cartref gofal, neu eu rhyddhau o'r ysbyty yn ôl i leoliadau gofal.

 

Rydym yn cydnabod bod cydnerthedd staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi cael ei brofi, ac mae'n hanfodol cefnogi eu llesiant yn y misoedd nesaf. Fel rhan o hyn, rydym yn pwysleisio pwysigrwydd cefnogi staff a'u hannog i godi llais am yr hyn sy'n gweithio'n dda, a phan fydd pryderon ganddynt.

Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r wybodaeth a'r pryderon a geir gan unigolion sy'n gweithio mewn gwasanaethau iechyd a gofal, neu sy'n defnyddio gwasanaethau o'r fath, i lywio ein gwaith. Y bwriad yw y bydd ein gweithgareddau ein hunain yn y flwyddyn nesaf yn canolbwyntio ar lawer o'r agweddau a drafodir yn y llythyr hwn.

Byddwn hefyd yn parhau i gydweithio fel arolygiaethau i dynnu sylw at unrhyw faterion sy'n codi cyn gynted â phosibl, er mwyn cyfrannu'n gadarnhaol at y gwaith parhaus o reoli'r pandemig.

Yn gywir

 

Alun Jones                                                                        Gillian Baranski

Prif Weithredwr Dros Dro                                                 Prif Weithredwr

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru                                     Arolygiaeth Gofal Cymru