Neidio i'r prif gynnwy

Rydym am glywed eich barn am wasanaethau mamolaeth yng Nghymru!

Ydych chi wedi cael profiad o ddefnyddio gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru yn ddiweddar? Os ydych, rydym eisiau clywed oddi wrthoch chi.

I gefnogi ein hadolygiad cenedlaethol o wasanaethau mamolaeth, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), yn gweithio ar y cyd â’r Cynghorau Iechyd Cymuned, eisiau pobl gwblhau arolwg byr er mwyn rhannu eu profiadau a barnau â ni.

Hoffem i gymaint o bobl â phosibl rannu eu barn a'u dealltwriaeth er mwyn helpu i lunio ein hadolygiad. Rydym eisiau clywed sylwadau unrhyw un sydd wedi defnyddio gwasanaethau mamolaeth mewn unrhyw ffordd, nid yn unig unigolion sy'n feichiog neu sydd eisoes wedi rhoi genedigaeth, ond eu partneriaid a'u teuluoedd hefyd.

Dywedodd Dr Kate Chamberlain, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

Mae ein hadolygiad o wasanaethau mamolaeth yn ddarn o waith sy'n bwysig yn genedlaethol. Mae angen i ni gael barn cymaint o bobl â phosibl yng Nghymru sydd wedi cael profiad o ddefnyddio gwasanaethau mamolaeth er mwyn helpu i lywio'r adolygiad.

Rydym yn falch o fod yn cydweithio â Chynghorau Iechyd Cymuned i lunio'r arolwg hwn er mwyn helpu i sicrhau y gall barn pobl ledled Cymru gael ei chlywed.

Dywedodd Alyson Thomas, Prif Weithredwr y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned:

Rhaid darparu gwasanaethau mamolaeth mewn ffordd sy'n ymateb i anghenion menywod a'u teuluoedd wrth iddynt fynd drwy brofiad mawr sy'n newid bywyd.

Felly rydyn ni eisiau i bobl ddweud eu dweud fel bod y rheini sy'n cynllunio ac yn darparu gwasanaethau mamolaeth i bobl sy'n byw yng Nghymru yn clywed eu lleisiau.

Bydd Cynghorau Iechyd Cymuned ledled Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i annog a chefnogi pobl i lunio adolygiad cenedlaethol AGIC drwy rannu eu safbwyntiau a'u profiadau.”

Gellir cael gafael ar yr arolwg yn uniongyrchol trwy ddilyn y ddolen hon.