Rydym wedi cyhoeddi ein Cynlluniau Strategol a Gweithredol
Darganfod ein nod a blaenoriaethau strategol newydd ar gyfer 2018-21
Ein nod yw annog gwelliant mewn gofal iechyd trwy wneud y gwaith cywir ar yr adeg gywir yn y lle cywir; gan sicrhau yr hyn rydym yn ei wneud ei gyfleu'n dda a'i fod yn gwneud gwahaniaeth.
Mae ein strategaeth newydd yn ymateb i'r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru a'r cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, 'Cymru Iachach'. Mae'n amlinellu pedair blaenoriaeth strategol sy'n canolbwyntio ar bartneriaeth, llwybrau ac atal.
Ein blaenoriaethau
- Sicrhau bod effaith ein gwaith mor fawr ậ phosibl i gynorthwyo gwelliant i ofal iechyd
- Cymryd camau pan na fydd safonau'n cael eu bodloni
- Bod yn fwy amlwg
- Datblygu ei phobl a'i sefydliad i wneud y gwaith gorau posibl.
Mae'r Cynllun Gweithredol, a gafodd ei gyhoeddi heddiw hefyd, yn rhoi trosolwg o'r meysydd eang rydym yn bwriadu eu hadolygu yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac mae'n cynnwys gwybodaeth fanwl ynghylch ein gweithgarwch arfaethedig ar gyfer 2018–19.
Dywedodd y Prif Weithredwr, Dr Kate Chamberlain, y canlynol:
Mae'r cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, 'Cymru Iachach', yn gosod gweledigaeth glir ar gyfer gwella iechyd a llesiant a darparu iechyd a gofal cydgysylltiedig sy'n briodol i anghenion yr unigolyn. Yr her i AGIC yw sicrhau bod ein holl weithgarwch yn cefnogi gwasanaethau wrth gyflawni'r weledigaeth hon.
Mae AGIC yn sefydliad bach a chanddo waith mawr i'w wneud. Mae ein cynllun strategol yn gosod cyfeiriad, ond nid yw'n gyfeiriad pendant. Byddwn yn ymateb i amgylchiadau newidiol ac i'r gwaith o gyflwyno modelau gofal newydd, a byddwn yn hyblyg yn y ffordd rydym yn cyflawni ein blaenoriaethau. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chleifion a gwasanaethau i gefnogi'r gwaith o drawsnewid gofal yng Nghymru.