Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Adolygiad ar y cyd a wnaethpwyd ganArolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.

Yn y 12 mis diwethaf, mae gwaith a wnaethpwyd gan AGIC a Swyddfa Archwilio Cymru, ynghyd â gwaith adolygwyr annibynnol eraill, wedi codi nifer o bryderon sylweddol am drefniadau llywodraethu’r Bwrdd Iechyd a’i strwythurau rheolaeth ac arweinyddiaeth glinigol. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cychwyn camau gweithredu sy’n dechrau mynd i’r afael â rhai o’r pryderon a godwyd ond erys heriau sylfaenol o hyd.

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y prif heriau y mae angen i’r Bwrdd Iechyd eu goresgyn er mwyn iddo gryfhau ei drefniadau llywodraethu.