Paratowyd yr adroddiad hwn gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ar y cyd, ac fe’i cyflwynir i’r Cynulliad Cenedlaethol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Y llynedd lluniodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad ar y cyd ar drefniadau llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (y Bwrdd Iechyd).
Yn ein hadroddiad, gwnaethom 24 o argymhellion er mwyn ceisio mynd i’r afael â nifer o bryderon sylfaenol o ran:
- effeithiolrwydd y Bwrdd;
- strwythurau rheoli ac arweinyddiaeth glinigol y sefydliad;
- trefniadau llywodraethu ansawdd a diogelwch;
- gallu’r Bwrdd Iechyd i reoli ei faterion ariannol ei hun a sicrhau
- cynaliadwyedd ariannol; a
- datblygu cynlluniau strategol i foderneiddio ac ad-drefnu gwasanaethau clinigol ledled Gogledd Cymru.
Mae 12 mis wedi mynd heibio ers i’r adolygiad hwnnw gael ei gyhoeddi, ac mae ein sefydliadau newydd gwblhau adolygiad lefel uchel o’r cynnydd y mae’r Bwrdd Iechyd wedi’i wneud i fynd i’r afael â’r pryderon sylweddol a nodwyd gennym.
Cyflwynir canfyddiadau ein gwaith dilynol yn y ddogfen hon ar ffurf sylwadau ar bob un o’r 24 o argymhellion a wnaethom.