Ymestyn arolwg cenedlaethol o wasanaethau mamolaeth
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi y bydd ei harolwg cenedlaethol o wasanaethau mamolaeth yn cau ddydd Gwener 10 Ionawr 2020.
Y bwriad oedd y byddai'r arolwg yn cau ym mis Rhagfyr 2019, ond mae wedi cael ei ymestyn i'r Flwyddyn Newydd. Bydd hyn yn rhoi mwy o amser i bobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau mamolaeth rannu eu barn a'u profiadau.
Lansiwyd yr arolwg ym mis Medi, ar y cyd â'r Cynghorau Iechyd Cymuned, fel rhan o adolygiad cenedlaethol o wasanaethau mamolaeth parhaus AGIC.
Mae'r farn a'r wybodaeth a rennir drwy gwblhau'r arolwg byr yn werthfawr iawn i AGC a bydd yn helpu i lywio'r adolygiad cenedlaethol. Rydym am glywed sylwadau unrhyw un sydd wedi defnyddio gwasanaethau mamolaeth mewn unrhyw ffordd, nid yn unig unigolion sy'n feichiog neu sydd eisoes wedi rhoi genedigaeth, ond eu partneriaid a'u teuluoedd hefyd.
Dywedodd Dr Kate Chamberlain, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
"Mae ein hadolygiad o wasanaethau mamolaeth yn ddarn o waith sy'n bwysig yn genedlaethol. Mae angen i ni gael barn cymaint o bobl â phosibl yng Nghymru sydd wedi cael profiad o ddefnyddio gwasanaethau mamolaeth er mwyn helpu i lywio'r adolygiad.
“Rydym wedi cael ymateb gwych yn barod, gyda dros 2,500 o arolygon wedi’u cwblhau hyd yma, a thrwy ymestyn y dyddiad cau, rydym wedi rhoi mwy o amser i ragor o bobl rannu eu profiadau â ni.”
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr adolygiad cenedlaethol o wasanaethau mamolaeth yma.
Gellir cael gafael ar yr arolwg yn uniongyrchol drwy ddilyn y ddolen hon.