Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiadau ac Archwiliadau Arbennig

Rydym yn cynnal adolygiadau ac ymchwiliadau arbennig er mwyn canfod yr hyn sydd wedi mynd o'i le pan fu digwyddiad mewn gwasanaeth gofal iechyd.

Rydym yn cynnal adolygiadau neu ymchwiliadau arbennig o sefydliadau neu wasanaethau gofal iechyd mewn ymateb i bryderon a leisiwyd ynglŷn â digwyddiad neu ddigwyddiadau penodol. Mae hyn yn dibynnu ar ddifrifoldeb y problemau hyn a/neu pa mor aml maent yn digwydd.

Mae'n bosibl y byddwn yn ystyried ymchwilio i broblemau sy'n awgrymu problemau systemig o fewn gwasanaeth, neu fel arall fethiannau ehangach o fewn y GIG.

Gallai penderfyniad i gynnal adolygiad neu ymchwiliad arbennig gael ei ddylanwadu hefyd gan wybodaeth a gasglwyd naill ai gan AGIC neu gan gyrff archwilio, rheoleiddio ac arolygu eraill. 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn comisiynu ni i gynnal adolygiad pan fydd dynladdiad o oedolyn wedi ei gyflawni gan unigol yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl oedolion.

Mae ein hadolygiadau ac ymchwiliadau arbennig yn rhoi cyfle i wasanaethau ddysgu pan fydd rhywbeth wedi mynd o'i le.