Neidio i'r prif gynnwy

Ein memoranda o Gyd-ddealltwriaeth gyda sefydliadau eraill

Mae cydweithio gyda sefydliadau eraill yn helpu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) i wneud ein gwaith yn well.

Mae gennym gytundebau ffurfiol, o'r enw Memoranda Cyd-ddealltwriaeth, â grwpiau gwahanol fel rheoleiddwyr, cyrff y llywodraeth, a sefydliadau proffesiynol. Mae'r cytundebau hyn yn ein helpu i rannu gwybodaeth, osgoi ailadrodd gwaith, ac ymateb yn gyflymach ac mewn ffordd wybodus pan fo pryderon. Drwy weithio mewn partneriaeth, gallwn amddiffyn pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal iechyd yn well a gwneud yn siŵr bod gofal yng Nghymru yn ddiogel ac o ansawdd da.

Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu mwy am sut rydym wedi cytuno i weithio gyda sefydliadau eraill