Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Gofal Iechyd Annibynnol

Canllawiau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer Darparwyr Gofal Iechyd Annibynnol

I gofrestru gyda AGIC fel gwasanaeth gofal iechyd annibynnol, mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 yn datgan bod yn rhaid i dystysgrif DBS uwch wreiddiol wedi'i llofnodi gan AGIC sydd wedi'i chyhoeddi o fewn y 3 blynedd flaenorol ar gyfer y Rheolwr/Unigolion Cyfrifol gyd-fynd â chais.

Os ydych wedi tanysgrifio i’r Gwasanaeth Diweddaru, bydd yn ofynnol i chi gyflwyno copi o’r dystysgrif DBS wreiddiol a chaniatâd i wirio’r statws ar-lein.

Dim ond ar ffurf copi caled y mae ffurflenni cais DBS AGIC ar gael.  Ar ôl i ni dderbyn cais gennych i gofrestru ag AGIC, os bydd angen, byddwn yn anfon pecyn cais DBS i'ch cyfeiriad cartref (oni fyddwch wedi nodi'n wahanol).  Bydd yn ofynnol i chi ddychwelyd ffurflen gais y DBS drwy'r post i AGIC ynghyd â thair dogfen adnabod (ID) wreiddiol (bydd rhestr yn nodi pa ddogfennau adnabod (ID) a gaiff eu derbyn wedi'i chynnwys fel rhan o'r pecyn cais).  Rydym yn argymell yn gryf y dylech ddefnyddio dull diogel i anfon unrhyw wybodaeth/eitemau personol atom drwy'r post. Ar ôl i ni eu derbyn, byddwn yn anelu at ddychwelyd eich dogfennau adnabod gwreiddiol atoch o fewn 2 ddiwrnod gwaith gan ddefnyddio gwasanaeth Special Delivery y Post Brenhinol sy'n gwarantu y byddant yn eich cyrraedd erbyn 1pm y diwrnod canlynol.  Fel arall, gallwch drefnu apwyntiad i ymweld â'n swyddfeydd i gyflwyno'r cais a chael eich dogfennau adnabod wedi'u dilysu ar y pryd. Bydd datganiad preifatrwydd hefyd wedi’i gynnwys fel rhan o'r pecyn cais er mwyn i chi allu gweld sut rydym yn defnyddio ac yn storio’ch gwybodaeth. Rhaid i chi ei lofnodi a’i ddychwelyd atom gyda’ch ffurflen gais DBS wedi’i chwblhau.

Yn ogystal, mae angen gwiriad manylach gan y DBS wedi'i gynnal o fewn y 3 blynedd diwethaf ar aelodau o staff a allai ddod i gysylltiad ag oedolion agored i niwed a/neu blant . Mae gwiriad safonol yn ddigon i'r rhai nad ydynt yn gwneud hynny.

Gellir cynnal gwiriadau gan y DBS ar gyfer staff drwy wneud cais gyda chorff ymbarél.  Gellir dod o hyd i gyrff ymbarél y DBS yn Dod o hyd i gwmni corff ymbarél y DBS - GOV.UK (www.gov.uk)

Bydd angen i wasanaethau gofal iechyd annibynnol roi eu trefniadau eu hunain ar waith i gynnal gwiriadau ar gyfer y rhai hynny sy'n gweithio yn y gwasanaeth a rhaid darparu cadarnhad bod gan bob aelod o'r staff wiriadau DBS ar gais.

Mae canllawiau i'ch helpu i benderfynu a oes angen gwiriad DBS sylfaenol, safonol neu fanylach ar gyfer rôl.

Y gyfraith

Deddf Safonau Gofal 2000 yw'r ddeddfwriaeth gyffredinol sy'n berthnasol.

Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 yn nodi'r wybodaeth sydd ei hangen wrth wneud cais i gofrestru fel gwasanaeth gofal iechyd annibynnol.

Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011

Mae rheoliadau 10, 12 a 21 ac Atodlen 2 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw unigolyn sy'n gweithredu, yn rheoli neu'n gweithio mewn gwasanaeth gofal iechyd annibynnol gael gwiriad gan y DBS.

Nid oes unrhyw ofyniad penodol yn y Rheoliadau sy'n datgan bod yn rhaid adnewyddu tystysgrif DBS. Fodd bynnag, mae gofyniad parhaus bod gweithwyr yn parhau i fod yn 'addas’ (Rheoliad 21 ac Atodlen 2). Wrth gofrestru ac wrth gynnal arolygiadau, mae angen i ni fod yn fodlon bod gan wasanaethau gofal iechyd annibynnol system ar waith i sicrhau bod gweithwyr yn parhau i fod yn ‘addas’.

Mae Rheoliad 16 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr wneud trefniadau addas ar gyfer diogelu cleifion rhag cael eu cam-drin.Mae Rheoliad 19 yn ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid amddiffyn cleifion rhag risgiau gofal a thriniaeth amhriodol neu anniogel. Bydd angen i wasanaethau gofal iechyd annibynnol ddangos sut maent yn bodloni'r gofynion hyn.