Neidio i'r prif gynnwy

Practisau Deintyddol

Canllawiau DBS ar gyfer practisau deintyddol preifat a phractisau mynediad uniongyrchol preifat

I gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) fel practis deintyddol preifat, mae Rheoliadau Cofrestru Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 yn nodi bod yn rhaid i dystysgrif DBS uwch wreiddiol a gyhoeddwyd o fewn y 3 blynedd flaenorol at ddibenion deintyddiaeth ar gyfer y Rheolwr Cofrestredig/au a'r Unigolyn/au Cyfrifol gyd-fynd â chais.

Nid oes yn rhaid i'r cais am wiriad gan y DBS gael ei gydlofnodi gan AGIC.  Os ydych wedi tanysgrifio i’r Gwasanaeth Diweddaru, bydd yn ofynnol i chi gyflwyno copi o’r dystysgrif DBS wreiddiol a chaniatâd i wirio’r statws ar-lein. 

Gellir cynnal gwiriadau'r DBS drwy wneud cais gyda chorff ymbarél.  Gellir dod o hyd i gyrff ymbarél y DBS yn Dod o hyd i gwmni corff ymbarél y DBS - GOV.UK (www.gov.uk)

Mae angen sicrhau hefyd bod gan aelodau o staff a allai ddod i gysylltiad ag oedolion agored i niwed a/neu blant hefyd wiriad DBS manylach a gynhaliwyd o fewn y 3 blynedd diwethaf. Mae gwiriad safonol yn ddigon i'r rhai nad ydynt yn gwneud hynny.

Bydd angen i bractisau deintyddol preifat roi eu trefniadau eu hunain ar waith ar gyfer cynnal gwiriadau DBS ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y practis a rhaid darparu cadarnhad wrth wneud cais bod gan bob aelod o'r staff wiriadau gan y DBS.

Mae canllawiau i'ch helpu i benderfynu a oes angen gwiriad DBS sylfaenol, safonol neu fanylach ar gyfer rôl.

Y gyfraith

Deddf Safonau Gofal 2000 yw'r ddeddfwriaeth gyffredinol sy'n berthnasol.

Mae Rheoliadau Cofrestru Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 yn nodi’r wybodaeth sydd ei hangen wrth wneud cais i gofrestru fel practis deintyddol preifat.

Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017

Mae rheoliadau 9, 11 a 18 ac Atodlen 3 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw unigolion sy'n gweithredu neu'n rheoli neu'n gweithio mewn practis deintyddol preifat gael gwiriad gan y DBS.

Nid oes unrhyw ofyniad penodol yn y Rheoliadau sy'n datgan bod yn rhaid adnewyddu tystysgrif DBS. Fodd bynnag, mae gofyniad parhaus bod gweithwyr yn parhau'n ‘addas’ (Rheoliad 18 ac Atodlen 3).  Wrth gofrestru ac wrth gynnal arolygiadau, mae angen i ni fod yn fodlon bod gan bractisau deintyddol preifat system ar waith i sicrhau bod gweithwyr yn parhau i fod yn ‘addas’. Tynnir sylw arbennig at y gofyniad i sicrhau bod system ar waith i asesu uniondeb a chymeriad da unigolyn (Rheoliad 18 a Rhan 2 o Atodlen 3).

Mae rheoliad 14 yn ei gwneud yn ofynnol i bractisau deintyddol preifat wneud trefniadau addas ar gyfer diogelu cleifion rhag cael eu cam-drin a’u trin yn amhriodol.Mae rheoliad 16 yn ei gwneud yn ofynnol i risgiau sy'n ymwneud ag iechyd, lles a diogelwch staff a chleifion gael eu nodi, eu hasesu a'u rheoli. Mae angen i bractisau deintyddol preifat ddangos sut maent yn bodloni'r gofynion hyn.