Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gofrestru fel practis deintyddol preifat neu arfer mynediad uniongyrchol preifat

Pwy sydd angen cofrestru?

  • Darparwyr a rheolwyr practisau deintyddol sy'n darparu unrhyw ofal deintyddol preifat
  • Gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol sy'n darparu gwasanaethau mynediad uniongyrchol preifat o'u practis eu hunain (hylenwyr deintyddol, therapyddion deintyddol a thechnegwyr deintyddol clinigol)

Sut i gofrestru

Darllenwch y canllawiau ar gyfer darparwyr newydd a chwblhewch y ffurflen gais – gellir lawrlwytho'r ddau ohonynt isod; gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys yr holl ddogfennau sy'n ofynnol.

Anfonwch eich ffurflen gais wedi'i chwblhau a'ch dogfennau cysylltiedig drwy e-bost i HIWregistration@gov.wales neu anfonwch gopi caled i'n swyddfa.

Ar ôl i'ch cais ddod i law byddwn yn cadarnhau ei fod yn gyflawn ac yn asesu'r ddogfennaeth a'r wybodaeth a ddarparwyd. Ceir manylion llawn y broses asesu a'r wybodaeth y byddwn yn gofyn amdani yn y canllawiau.

Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Mae'n rhaid i chi gyflwyno tystysgrif DBS uwch, wedi'i chyflwyno o fewn y tair blynedd diwethaf, gyda'ch cais. Nid oes angen i AGIC brosesu gwiriadau DBS ar gyfer darparwyr newydd a rheolwyr practisau deintyddol preifat. Gall eich cyflogwr neu gorff ambarél brosesu'r gwiriadau hyn.

Ceir gwybodaeth a chanllawiau ar wiriadau DBS yma

Ffioedd blynyddol

Mae'n rhaid i bob practis deintyddol preifat cofrestredig dalu ffi flynyddol i barhau i fod wedi'i gofrestru.

Y ffi flynyddol yw £500 neu £300 os mai dim ond un deintydd sydd yn y practis a bod y deintydd hwnnw yn darparu gwasanaethau deintyddol preifat a'r GIG.

Mae eich ffi flynyddol yn ddyledus un mis ar ôl y dyddiad cofrestru (pro rata ar gyfer y misoedd sy'n weddill o'r flwyddyn ariannol) ac yn flynyddol ar 1 Ebrill ar ôl hynny. Byddwn yn dweud wrthych faint yw'r ffi a sut y gallwch ei thalu pan fyddwch wedi cofrestru.

Mae ffioedd hefyd yn daladwy:

  • Wrth wneud cais i amrywio unrhyw amod cofrestriad
  • Wrth wneud cais i ddileu amod cofrestriad

Y gyfraith

Mae'n rhaid i bractisau deintyddol preifat a phractisau mynediad uniongyrchol preifat gofrestru â ni fel sy'n ofynnol yn gyfreithiol gan Ddeddf Safonau Gofal 2000

Mae Rheoliadau Cofrestru Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 yn nodi'r wybodaeth a'r ddogfennaeth y mae'n rhaid eu cyflwyno gyda'ch cais er mwyn cofrestru â ni.

Er mwyn cymeradwyo eich cais i gofrestru â ni mae'n rhaid ein bod yn fodlon y byddwch yn cydymffurfio â Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017.

Dweud eich dweud ar ein proses gofrestru

Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar y ffordd yr ydym yn rheoli ein proses gofrestru i sicrhau ein bod yn gweithio yn y ffordd fwyaf craff posibl.

Dywedwch eich dweud ar hygyrchedd ein gwybodaeth gofrestru, eglurder y canllawiau a ddarparwyd, yn ogystal â'r broses gofrestru ei hun.

Cwblhewch ein harolwg byr.

Dogfennau