Sut y gallwch cofrestru i ddarparu gwasanaeth gofal iechyd annibynnol
Pwy sydd angen cofrestru?
Darparwyr a rheolwyr:
- Ysbytai annibynnol
- Clinigau annibynnol
- Asiantaethau meddygol annibynnol
Sut i gofrestru
Darllenwch y canllawiau ar gyfer darparwyr newydd a chwblhewch y ffurflen gais – gellir lawrlwytho'r ddau ohonynt isod; gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys yr holl ddogfennau sy'n ofynnol.
Anfonwch eich ffurflen gais wedi'i chwblhau a'ch dogfennau cysylltiedig drwy e-bost i HIWregistration@gov.wales neu anfonwch gopi caled i'r Tîm Cofrestru, AGIC, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhydycar, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.
Ar ôl i'ch cais ddod i law byddwn yn cadarnhau ei fod yn gyflawn ac yn asesu'r ddogfennaeth a'r wybodaeth a ddarparwyd. Ceir manylion llawn y broses asesu a'r wybodaeth y byddwn yn gofyn amdani yn y canllawiau.
Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Gallwch gael ffurflen gais DBS gennym drwy ffonio 0300 062 8163 neu drwy e-bostio HIWregistration@gov.wales. Ceir canllawiau ar gwblhau'r ffurflen DBS yma.
Mae'n rhaid i AGIC brosesu pob gwiriad DBS ar gyfer darparwyr newydd a rheolwr gwasanaethau gofal iechyd annibynnol. Y gost bresennol ar gyfer gwneud cais am wiriad DBS yw £44.00.
Noder: Mae'r ffordd rydym yn prosesu ceisiadau DBS wedi newid. Mae'n rhaid i ni gynnal gwiriadau adnabod yn bersonol bellach. Peidiwch ag anfon eich dogfennau adnabod i AGIC. Pan fyddwch yn gofyn am ffurflen gais DBS, byddwn yn egluro sut y gallwch gyflwyno eich dogfennau adnabod i ni a thalu'r ffi ymgeisio.
Ffioedd cofrestru
Mae'n rhaid talu ffi gofrestru gyda'r rhan fwyaf o geisiadau i gofrestru darparwr neu reolwr gofal iechyd annibynnol. Byddwn yn dweud wrthych faint yw'r ffi a sut y gallwch ei thalu pan fyddwch wedi cyflwyno eich cais.
Mae ffioedd hefyd yn daladwy:
- Wrth wneud cais i amrywio unrhyw amod cofrestriad
- Wrth wneud cais i ddileu amod cofrestriad
- Yn flynyddol i gynnal cofrestriad
Y gyfraith a safonau gofynnol cenedlaethol
Mae'n rhaid i wasanaethau gofal iechyd annibynnol gofrestru â ni fel sy'n ofynnol yn gyfreithiol gan Ddeddf Safonau Gofal 2000
Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 yn nodi'r wybodaeth a'r ddogfennaeth y mae'n rhaid eu cyflwyno gyda'ch cais er mwyn cofrestru â ni.
Er mwyn cymeradwyo eich cais i gofrestru â ni mae'n rhaid ein bod yn fodlon y byddwch yn cydymffurfio â Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Gofal Iechyd Annibynnol yng Nghymru.
Dogfennau
- Cyhoeddedig126 KB- doc
- Cyhoeddedig702 KB- pdf
- Cyhoeddedig366 KB- doc
- Cyhoeddedig22 KB- docx
- Cyhoeddedig21 KB- docx
- Cyhoeddedig310 KB- doc
- Cyhoeddedig311 KB- doc
- Cyhoeddedig309 KB- doc
- Cyhoeddedig20 KB- docx
- Cyhoeddedig164 KB- doc