Neidio i'r prif gynnwy

Safonau uchel o ofal ond pryderon sy'n parhau mewn rhai meysydd

Rydyn ni wedi cyhoeddi ei hadroddiad blynyddol, sy'n rhoi trosolwg o'i chanfyddiadau yn yr arolygiadau a gyflawnwyd yn 2017–18.

Yn ystod 2017–18, cwblhaodd AGIC bron i 300 o arolygiadau mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd ledled Cymru, gan gynnwys wardiau ysbytai, practisau deintyddol, practisau cyffredinol, gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau gofal iechyd preifat. 

Ar y cyfan, gwelodd AGIC y caiff safon uchel o ofal ei darparu mewn gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru. Roedd cleifion yn fodlon ar y gofal roeddent yn ei dderbyn ac yn gwerthfawrogi'r gwaith a gwblheir gan staff ymroddedig, a oedd yn aml yn gweithio mewn amgylcheddau heriol ac o dan bwysau. 

Fodd bynnag, siomedig i AGIC oedd canfod bod y problemau a nodwyd yn ystod ei harolygiadau yn 2016–17 yn parhau i fod yn amlwg yn 2017–18. Mae'r gwaith o reoli meddyginiaethau yn parhau i fod yn broblem ac, yn ogystal, codwyd pryderon yn nifer o’n harolygiadau ynghylch amgylchedd y gofal. Mae angen i weithwyr proffesiynol, rheolwyr ac arweinwyr mewn gwasanaethau iechyd fynd i'r afael â'r pryderon hyn er mwyn gwella'r gwasanaethau ar gyfer cleifion a llesiant staff. 

Yn 2018–19, bydd AGIC yn parhau i ganolbwyntio ar hybu gwelliant mewn gwasanaethau gofal iechyd er mwyn cefnogi ac amddiffyn cleifion a'r cyhoedd. Yn y blynyddoedd i ddod, bydd AGIC yn datblygu ei harolygiadau i ganolbwyntio'n fwy ar lwybrau, gwaith atal a phartneriaethau. Ceir rhagor o fanylion yng Nghynllun Strategol 2018–21 AGIC, sydd newydd ei gyhoeddi. 

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Dr Kate Chamberlain, heddiw:

Eto eleni, rydym wedi gweld staff yn gweithio'n galed i ddarparu gofal priodol sy'n cynnal urddas y claf ac sy'n rheoli risgiau. Mae'n amlwg o'n harolygiadau fod gwasanaethau yn parhau i wynebu heriau sylweddol o ran lefelau staffio ac amgylcheddau gofal. Rydym yn cydnabod bod byrddau iechyd yng Nghymru yn wynebu agenda heriol. Fodd bynnag, wrth fynd i'r afael â'r pwysau strategol ac ariannol sydd arnynt, mae'n hanfodol bwysig nad yw'r arweinwyr yn ein gwasanaethau iechyd yn colli eu golwg ar yr angen i ddarparu gofal diogel ac effeithiol sy'n canolbwyntio ar y claf.