Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael gofal da yn ystod pandemig COVID-19

Sefyllfa

Yn ystod pandemig COVID-19 mae gennym ymrwymiad a nod parhaus i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael gofal o ansawdd da, a ddarperir yn ddiogel ac yn effeithiol, yn unol â safonau cydnabyddedig.

Mae'r datganiad hwn yn nodi'r egwyddorion sy'n ategu ein dull gweithredu yn ystod y cyfnod hwn a'r camau gweithredu y mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi'u cymryd mewn ymateb i'r achosion. Mae hefyd yn nodi'r ffordd rydym yn addasu ein dull gweithredu i gyflawni ein swyddogaethau wrth i'r pandemig ddatblygu, ac wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio, er mwyn sicrhau eu bod yn gymesur ac yn briodol.

Mae ein dull gweithredu wedi'i ategu gan bedair egwyddor:

  1. Lleihau baich a phwysau rheoliadol ein gwaith ar leoliadau gofal iechyd ar adeg o bwysau enfawr, gan barhau i gyflawni ein swyddogaethau statudol
  2. Goruchwylio gwasanaethau gofal iechyd a rhoi sicrwydd i'r cyhoedd a'r Gweinidog drwy ganolbwyntio ar ddeallusrwydd a gweithio'n agos gyda sefydliadau partner.
  3. Cefnogi'r GIG, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yn uniongyrchol mewn ymateb i'r pandemig
  4. Paratoi AGIC i'w galluogi i barhau i gyflawni ei diben er gwaethaf yr heriau presennol a pharhaus, ynghyd â chyflawni ein dyletswydd gofal i gydweithwyr AGIC.

 

Sut rydym yn cyflawni'r egwyddorion hyn yn ystod y pandemig:

1. Lleihau baich ein gwaith ar leoliadau gofal iechyd ar adeg mor brysur, gan barhau i gyflawni ein swyddogaethau statudol

a) Rhaglen arolygu ac adolygu

  • Gwnaed penderfyniad i atal ein rhaglen arolygu ac adolygu arferol, a rhannwyd y penderfyniad hwn ar ein gwefan ar 17 Mawrth 2020. Roedd hyn yn cyd-fynd â phenderfyniad a wnaed gan reoleiddwyr statudol ledled y DU, a rhoddwyd trefniadau ar waith i sicrhau bod swyddogaethau busnes hanfodol yn parhau i gael eu cyflawni. Nododd AGIC ar y pryd efallai y bydd angen i ni ddefnyddio ein pwerau arolygu o hyd mewn nifer bach o achosion, os bydd tystiolaeth amlwg i wneud hynny.
  • Er nad oes ymweliadau safle a chyfweliadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal, mae'r gwaith ar ein rhaglen adolygu yn parhau lle y bo'n bosibl.
  • Caiff adroddiad ei lunio ar y gwaith a wnaed hyd yma ar ein Hadolygiad Cenedlaethol o Wasanaethau Mamolaeth, sy'n defnyddio arolygon y cyhoedd ac arolygon staff.
  • Mae AGIC hefyd yn parhau i weithio gydag Archwilio Cymru ar ei adolygiad data o Ofal Heb ei Drefnu, a byddwn hefyd yn cyfrannu at waith Archwilio Cymru yn edrych ar Lywodraethu Ansawdd ar draws byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau. Megis dechrau y mae'r meysydd gwaith hyn a byddwn yn rhoi rhagor o ddiweddaraidau mewn sesiynau briffio dilynol.
  • Wrth i ni symud allan o gam cyntaf y pandemig, gwnaeth AGIC alwadau ymgysylltu â holl Brif Weithredwyr Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ledled Cymru. Roedd y sgyrsiau hyn yn archwilio'r modd y gallai AGIC barhau i gael sicrwydd wrth gefnogi'r gwasanaethau y mae'r pandemig yn effeithio arnynt fwyaf.
  • Mae AGIC wrthi'n cynllunio rhaglen waith newydd a gaiff ei rhoi ar waith yn yr haf, a fydd yn canolbwyntio ar y meysydd hynny lle rydym yn ystyried bod risg uwch nad yw'r safonau ansawdd yn cael eu cwrdd a lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf. Bydd y cynllun newydd hefyd yn cyd-fynd â ffocws cynnar Fframwaith Gweithredu COVID-19 GIG Cymru ar feysydd allweddol o niwed a gwasanaethau hanfodol.

 

2. Ymateb i bryderon

  • Os bydd ein gweithgarwch monitro deallusrwydd yn nodi pryderon difrifol ac yn nodi y gall fod risg uniongyrchol i ddiogelwch pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal iechyd, byddwn yn parhau i gynnal ymweliadau arolygu
  • Fodd bynnag, dim ond ar ôl ceisio ffyrdd eraill o gael sicrwydd a thystiolaeth y cynhelir ymweliadau arolygu
  • Rydym yn newid y ffordd rydym yn gweithio er mwyn cyflwyno fframwaith sicrwydd cadarn i fynd ati i gael sicrwydd ar ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd o bell. Gwnawn hyn drwy wneud defnydd effeithiol o'r dechnoleg sydd ar gael i ni ac i ddarparwyr. Byddwn hefyd yn parhau i ymgysylltu'n agos ac yn barhaus â darparwyr, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid
  • Lle mae angen cynnal ymweliadau arolygu, byddwn yn sicrhau bod ein staff yn cael eu diogelu ac nad oes risg o drosglwyddo'r haint. Caiff hyn ei gyflawni fel a ganlyn:
  1. Rhoi hyfforddiant i'r holl staff arolygu ar feysydd allweddol sy'n gysylltiedig â'r pandemig yn cynnwys rheoli ac atal haint.
  2. Defnyddio ein tîm 'sy'n barod i gynnal arolygiadau' i gynnal unrhyw ymweliadau arolygu.
  3. Ar ddyddiad yr arolygiad, bydd pob aelod o'r staff sy'n bresennol yn cwblhau holiadur a datganiad, yn ymwneud â'i statws iechyd ac ynysu. Mae hyn er mwyn sicrhau nad yw staff sy'n hunanynysu neu'n dangos symptomau yn mynd i amgylcheddau gofal iechyd.
  4. Caiff cyfarpar diogelu personol sy'n cyrraedd y safonau a nodwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ei gyflenwi i'n tîm arolygu sy'n cynnal yr ymweliad. Bydd aelodau'r tîm hefyd wedi cael hyfforddiant ar sut i wisgo a dadwisgo'r cyfarpar hwn.

 

c) Cyhoeddi adroddiadau arolygu

  • Ar 14 Ebrill, gwnaethom gyhoeddi y byddai oedi cyn cyhoeddi adroddiadau ar arolygiadau mewn lleoliadau gofal iechyd y GIG a gynhaliwyd cyn ein penderfyniad i oedi cyn cynnal arolygiadau arferol ar 17 Mawrth. Diben hyn oedd lleihau'r baich uniongyrchol ar y broses gyhoeddi.
  • Yn dilyn trafodaeth â'r bwrdd iechyd a Phrif Weithredwyr yr ymddiriedolaeth am y penderfyniad i aiddechrau cyhoeddi adroddiadau, ailddechreuodd y broses ar 28 Mai. Yn achos adroddiadau ar gyfer lleoliadau gofal sylfaenol, byddwn yn cysylltu â nhw yn uniongyrchol i drafod y trefniadau mwyaf priodol
  • Ar gyfer lleoliadau gofal iechyd annibynnol, yn cynnwys deintyddfeydd sydd wedi cofrestru i ddarparu gwasanaethau deintyddol preifat, byddwn yn ystyried pob adroddiad arolygu fesul achos mewn ymgynghoriad â'r lleoliad.

d) Ysbytai Maes

  • Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru mewn swyddogaeth gefnogol mewn perthynas ag ysbytai dros dro ac ysbytai maes
  • Byddwn yn eu cefnogi mewn perthynas â'r safonau iechyd a gofal yn y cyfleusterau hyn, gan gynnig llais annibynnol i gefnogi safonau ansawdd a diogelwch

e) Gofal Iechyd Annibynnol

  • Mae AGIC yn ymrwymedig i gefnogi'r sector annibynnol i barhau i ddarparu gofal diogel ac effeithiol yn ystod y pandemig hwn, gan alluogi darparwyr annibynnol i chwarae eu rhan yn gwneud y mwyaf o'r gallu a'r adnoddau sydd ar gael yn eu hysbytai er mwyn cefnogi'r GIG
  • Rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid y GIG fel swyddogion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ymrwymiad hwn yn cael ei gyflawni
  • Fel rhan o'r ymateb i'r pandemig, mae'r GIG wedi bod yn defnyddio gallu ac adnoddau ysbytai acíwt annibynnol i gefnogi'r GIG. Mae AGIC wedi canolbwyntio ar oblygiadau ymarferol rhoi'r trefniant hwn ar waith, a'r angen i roi canllawiau i ddarparwyr ar ffyrdd o gynnal cydymffurfiaeth reoliadol. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar ba bryd a sut y dylid hysbysu AGIC ynghylch addasiadau arfaethedig i'r gwasanaethau a ddarperir fel y gellir gwneud newidiadau i'r broses gofrestru
  • Rydym hefyd wedi gwneud ymrwymiad y bydd gweithgarwch cofrestru mewn perthynas â COVID-19 yn cael ei flaenoriaethu dros weithgarwch cofrestru arall
  • Bydd AGIC yn parhau i weithio gyda'r Uned Comisiynu Cydweithredol Genedlaethol (NCCU) gan sicrhau bod trefniadau gwell ar waith i fonitro diogelwch cleifion a staff mewn ysbytai iechyd meddwl annibynnol yn y cyfnod heriol hwn. Mae hyn yn cynnwys sicrwydd ar drefniadau parhad busnes a diweddariadau rheolaidd ar y lefelau staffio ym mhob ysbyty.
  • Mae BCCU wedi sefydlu dull gweithredu canolfan reoli i sicrhau bod cymorth a chyngor ar gael yn uniongyrchol i ysbytai. Caiff unrhyw faterion sy'n codi eu rhannu ag AGIC
  • Mae Deintyddiaeth Breifat yn faes arall lle mae AGIC wedi chwarae rhan allweddol yn sicrhau bod deintyddfeydd sydd ond yn cynnig triniaeth ddeintyddol breifat yn ymwybodol o'r cyngor sydd ar gael iddynt o ran iechyd y cyhoedd. Rydym wedi rhoi canllawiau gan y Prif Swyddog Deintyddol i'r deintyddfeydd hyn ar weithrediad canolfannau mynediad brys fel bod ganddynt y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i atgyfeirio cleifion os bydd angen.
  • Rydym hefyd wedi sicrhau y caiff pryderon deintyddfeydd preifat eu cynrychioli yn ein trafodaethau â'r Prif Swyddog Deintyddol ar lacio'r cyfyngiadau ar ddeintyddfeydd.

f) Gwasanaeth Adolygu ar gyfer Iechyd Meddwl

  • Rydym wedi diwygio'r gweithdrefnau ar gyfer Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn (SOADs) mewn perthynas â'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn ystod cyfnod COVID-19, yn cynnwys rhoi'r gorau i ymweliadau ffisegol gan SOADs dros dro. Mae'r canllawiau sydd wedi'u diweddaru a'r fethodoleg ddiwygiedig ar gyfer y gwasanaeth ar gael yma.

g) Y Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Amlygiad Meddygol) (IR(ME)R)

  • Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar y cyd â'n rheoleiddwyr cyfatebol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban. Roedd y canllawiau'n cwmpasu hyfforddiant, profi cyfarpar, penodi cofrestreion dros dro neu gyn gofrestreion fel deiliaid dyletswyddau o dan IR(ME)R, ffiseg feddygol, hysbysu am amlygiadau damweiniol neu anfwriadol a ble i gael rhagor o wybodaeth
  • Mae'r hysbysiad hwn ar gael yma.

 

2. Goruchwylio gwasanaethau gofal iechyd a rhoi sicrwydd i'r cyhoedd a'r Gweinidog drwy ganolbwyntio ar ffynonellau deallusrwydd a gweithio'n agos gyda sefydliadau partner.

a) Gwybodaeth a deallusrwydd

  • Er nad oes gwaith arolygu ac adolygu arferol yn mynd rhagddo, mae AGIC yn parhau i fonitro lleoliadau a gwasanaethau a chynnal asesiadau risg arnynt drwy ffynonellau deallusrwydd sefydledig. Mae hyn yn cynnwys monitro mesurau perfformiad, dadansoddi digwyddiadau difrifol a phryderon y cyhoedd.
  • Mae ein gweithrediadau ar gyfer pwynt cyswllt cyntaf a phryderon yn gwbl weithredol o hyd
  • Mae AGIC hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i fonitro gwasanaethau mewn perthynas â COVID-19, yn cynnwys ffynonellau deallusrwydd rheolaidd a dadansoddi data
  • Mae gwybodaeth ac adroddiadau Llywodraeth Cymru yn cael eu hadolygu ochr yn ochr â dangosfyrddau data a gwaith modelu data er mwyn nodi'r pryderon a'r risgiau a wynebir gan leoliadau a gwasanaethau
  • Fel rhan o'r gwaith hwn, rydym wedi uwchgyfeirio pryderon ynghylch darparu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) i ddarparwyr gofal iechyd annibynnol ac wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ag AGC ar gynllunio gofal ymlaen llaw a defnydd o DNACPR. Mae'r datganiad i'w weld ar ein gwefan.
  • Yn dilyn cyflwyno cynlluniau gweithredol lleol o dan Fframwaith Gweithredu COVID-19 GIG Cymru, rydym wedi ysgrifennu at yr holl fyrddau iechyd yn gofyn iddynt roi manylion i ni am y modd maent yn bwriadu rhoi sicrwydd i'w hunain bod cyn lleied o niwed â phosibl yn y pedwar maes a nodir yn y fframwaith, yn arbennig mewn perthynas â gwasanaethau hanfodol.

b) Cyfathrebu

  • Mae AGIC wedi bod mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill ynghylch ein hymateb i COVID-19 drwy ddulliau cyfathrebu. Rhoddwyd Strategaeth Gyfathrebu ar waith i gefnogi dulliau cyfathrebu rheolaidd â rhanddeiliaid allweddol a staff, yn cynnwys darparwyr gofal iechyd annibynnol a deintyddion preifat. Rydym wedi creu adran arbennig ar COVID-19 ar ein gwefan.
  • Anfonwyd llythyrau yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Brif Weithredwyr y GIG ar ddull gweithredu AGIC yn ystod y pandemig, yn cynnwys y camau gweithredu sy'n cael eu cymryd i leihau ein heffaith ar wasanaethau rheng flaen
  • Yn ogystal â rhannu gwybodaeth am ein penderfyniadau a'n gweithgareddau fel yr amilnellwyd uchod, rydym hefyd yn rhaeadru gwybodaeth a chanllawiau gan y Prif Swyddog Meddygol, y Prif Swyddog Nyrsio a'r Prif Swyddog Deintyddol i leoliadau cofrestredig
  • Byddwn yn parhau i ddefnyddio ein sianeli Twitter a Facebook i rannu gwybodaeth am iechyd y cyhoedd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru ac yn helpu i'w hamlygu
  • Mae AGIC hefyd wedi bod yn gweithio gyda'r NCCU i lunio a dosbarthu llythyr i ddarparwyr gofal iechyd annibynnol. Roedd y llythyr hwn yn cynnwys y ffordd yr oedd gwaith AGIC yn newid yn sgil COVID-19 ac yn ateb cwestiynau cyffredin am COVID-19. Roedd yn cynnwys dolenni a chanllawiau ar bynciau fel cyfarpar diogelu personol a chymorth ariannol i fusnesau.

 

3. Cefnogi'r GIG, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yn uniongyrchol mewn ymateb i'r pandemig

  • Ganaethom nodi staff o bob rhan o'r sefydliad y gellid eu rhyddhau i weithio i'r GIG, i gyflawni rolau gyda thîm ymateb i'r pandemig i Lywodraeth Cymru, neu i weithio gyda Milwyr Wrth Gefn y Fyddin
  • Dychwelodd ein Cyfarwyddwr Clinigol, a oedd ar secondiad o un o Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru, i'r Ymddiriedolaeth am gyfnod o dri mis i gynorthwyo.

 

4. Paratoi AGIC i'w galluogi i barhau i gyflawni ei diben er gwaethaf yr heriau presennol parhaus, ynghyd â chyflawni ein dyletswydd gofal i gydweithwyr AGIC.

  • Rydym yn ailedrych ar ein rhaglen waith ehangach ar gyfer y flwyddyn i ddod er mwyn sicrhau ei bod yn briodol ac yn cydnabod y bydd y system gofal iechyd yn ymateb i ofynion COVID-19 am rai misoedd. Rydym yn datblygu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ni wrth gyflawni ein gwaith dros y flwyddyn i ddod
  • Rydym wedi datblygu cynllun ailosod drafft sy'n cwmpasu'r broses o ailddechrau holl feysydd busnes AGIC ar ôl y pandemig.
  • Rydym yn cyflymu gwaith ar nifer o feysydd gwella allweddol a ddiffinnir yn ein gwaith cynllunio gweithredol fel y gallwn barhau i atgyfnerthu'r sefydliad.
  • Rydym wedi dylunio a chyflwyno pecynnau hyfforddi wedi'u teilwra i holl staff AGIC ar bynciau sy'n berthnasol i'w rolau. Bydd hyn yn sicrhau bod ein pobl yn cael eu cefnogi i wneud y gwaith gorau posibl wrth i natur ein gwaith ddatblygu
  • Rydym wedi cynnal proses asesu risg gadarn i sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswydd gofal i'n staff.