Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau laser Dosbarth 3B/4 a ffynonellau golau pwls dwys

Rydym yn arolygu gwasanaethau laser dosbarth 3B/4 a Golau Curiadol Dwys i wneud yn siwr eu bod yn ddiogel i bobl sy'n derbyn triniaeth.

Beth yw laserau Dosbarth 3B/4 a ffynonellau golau pwls dwys? 

Mae laserau Dosbarth 3B/4 a ffynonellau golau pwls dwys yn gallu cael eu defnyddio ar gyfer ystod o driniaethau meddygol a chroen mewn gwasanaethau gofal iechyd gwahanol megis:

  • Triniaeth feddygol mewn ysbytai, gan gynnwys llawfeddygaeth gosmetig fewnwthiol 
  • Triniaeth ddeintyddol
  • Llawdriniaeth blygiannol ar y llygaid (a adwaenir fel llawdriniaethau 'laser' ar y llygaid)
  • Cyflyrau dermatolegol
  • Gwasanaethau cosmetig bach neu anfewnwthiol (a gaiff eu cyflawni yn aml gan harddwyr neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol) megis gwaredu gwallt, gwaredu tatŵs, a thrin mannau geni neu frychau croen eraill 

Mae laserau Dosbarth 3B/4 a goleuadau pwls dwys yn ddyfeisiadau pwerus ac, os oes nam arnynt, neu os cânt eu defnyddio'n anghywir, mae ganddynt y potensial i achosi anaf difrifol i'r sawl sy'n eu gweithredu, y sawl sy'n derbyn y driniaeth, a phobl eraill cyfagos, ac i danio defnyddiau llosgadwy. Dyma pam ei fod yn bwysig bod gwasanaethau sy'n defnyddio'r dyfeisiau hyn yn ddiogel ac wedi'u cofrestru gyda ni fel y bo'n briodol. 

Pwy sy’n cael eu harolygu gennym

Rydym yn arolygu gwasanaethau sy'n darparu triniaethau preifat gan ddefnyddio laserau Dosbarth 3B/4 a ffynonellau golau pwls dwys i sicrhau eu bod yn ddiogel ar gyfer pobl sy'n derbyn triniaeth.

Mae hyn yn cynnwys ystod o sefydliadau gofal iechyd gwahanol, ond mae'r mwyafrif o wasanaethau sydd wedi'u cofrestru gydag AGIC i ddarparu'r gwasanaethau hyn yn salonau a chlinigau harddwch.

Sut rydym yn arolygu

Rydym yn edrych ar sut mae gwasanaethau yn:

Mae ein harolygiadau o laserau Dosbarth 3B/4 a ffynonellau golau pwls dwys fel arfer yn rhai lle rhoddir rhybudd. Mae gwasanaethau fel arfer yn derbyn hyd at 12 wythnos o rybudd am arolygiad.

Mae ein harolygiadau yn cael eu cynnal gan o leiaf ddau arolygydd AGIC. 

Pwy sy'n gorfod cofrestru gyda ni

Mae'n rhaid i unrhyw sefydliad sy'n darparu gwasanaethau preifat yn defnyddio  laser dosbarth 3B/4 a ffynonellau Golau Pwls Dwys cofestru gyda ni.

Mae'r dogfennau canlynol yn rhoi arweiniad ar yr hyn y byddwn yn edrych arno yn ystod arolygiad. Os hoffech gopi o ein llyfr gwaith arolygu, cysylltwch â hiwinspections@llyw.cymru yn egluro pa fath o weithlyfr rydych yn eisiau.

Dogfennau