Neidio i'r prif gynnwy

Ysbytai, clinigau ac asiantaethau meddygol annibynnol

Rydym yn arolygu ysbytai annibynnol (gan gynnwys hosbisau), clinigau ac asiantaethau meddygol yng Nghymru.

Sut rydym yn arolygu

Rydym yn edrych ar sut mae gwasanaethau yn:


Gall ein harolygiadau o’r gwasanaethau hyn fod â rhybudd neu gallant fod yn ddirybudd. (dolen i'r rhesymeg dros fod â rhybudd yn erbyn bod yn ddirybudd)

Cynhelir ein harolygiadau gan o leiaf un arolygydd AGIC ynghyd ag adolygydd allanol (sydd â phrofiad proffesiynol perthnasol).

Pwy sy'n gorfod cofrestru gyda ni

Ysbytai Annibynnol

  • ysbytai acíwt (sy'n darparu ystod eang o wasanaethau gan gynnwys triniaeth feddygol a/neu lawfeddygol, gan gynnwys archwiliadau, dan anesthesia cyffredinol neu dawelydd mewnwythiennol);
  • ysbytai iechyd meddwl;
  • hosbisau;
  • ysbytai deintyddol sy'n darparu triniaethau dan anesthesia cyffredinol;
  • ysbytai mamolaeth;
  • ysbytai sy'n darparu gwasanaethau terfynu beichiogrwydd;ysbytai sy'n darparu llawdriniaeth gosmetig; a
  • ‘thechnegau rhagnodedig' neu 'dechnoleg ragnodedig' e.e. endosgopi, triniaeth ocsigen hyperbarig, enwaediad plant gwrywaidd, dialysis, ffrwythloni in vitro, defnydd o laser dosbarth 3B neu 4 neu olau curiadol dwys).

Clinigau Annibynnol

Sefydliadau lle darperir gwasanaethau gan ymarferwyr meddygol preifat yw’r rhain. Er mwyn i wasanaeth gael ei ystyried yn glinig annibynnol, ni all ddarparu gwelyau dros nos. Gall gwasanaethau gynnwys y canlynol:

  • Mesuriadau ac archwiliadau corfforol neu seiciatrig sylfaenol.
  • Mân lawdriniaethau fel ciwretiad, serio, cryoserio defaid neu friwiau eraill ar y croen.
  • Triniaeth feddygol tymor hirach ar gyfer cyflyrau cronig.
  • Triniaeth ar gyfer camddefnyddio cyffuriau ac alcohol.
  • Gellir rhagnodi meddyginiaethau.
  • Trafodaeth am ddiagnosis a dewisiadau triniaeth neu atgyfeirio at wasanaethau eraill.
  • Gwasanaethau rheoli pwysau / colli pwysau.
  • Gwasanaethau imiwneiddio ar gyfer teithio.

Asiantaethau gwasanaeth meddygol annibynnol

Mae’r rhain yn aml yn cael eu galw'n wasanaethau meddygol 'galw allan'. Gellir eu darparu i gleifion sy'n breswylwyr parhaol neu'n preswylio ar sail tymor byr. Gall gwasanaethau gynnwys:

  • Mesuriadau ac archwiliadau corfforol neu seiciatrig sylfaenol.
  • Mân lawdriniaethau.
  • Rhagnodi meddyginiaethau.
  • Trafodaeth am ddiagnosis a dewisiadau triniaeth neu atgyfeirio at wasanaethau eraill.
  • Imiwneiddio ar gyfer teithio.
  • Ymgynghoriad, diagnosis neu ragnodi ar y we.

Gall asiantaethau meddygol annibynnol ddarparu gwasanaeth galw allan 'y tu allan i oriau' hefyd ar gyfer clinigau annibynnol.

Mae'r dogfennau canlynol yn rhoi arweiniad ar yr hyn y byddwn yn edrych arno yn ystod arolygiad. Os hoffech gopi o ein llyfr gwaith arolygu, cysylltwch â hiwinspections@llyw.cymru yn egluro pa fath o weithlyfr rydych yn eisiau.

Dogfennau