Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd meddwl

Rydym yn arolygu gwasanaethau iechyd meddwl annibynnol yng Nghymru i wirio a yw pobl yn derbyn gofal da.

Sut rydym yn arolygu

Rydym yn edrych ar sut mae gwasanaethau yn:

Fel arfer, mae ein harolygiadau iechyd meddwl yn ddirybudd. Mae hyn yn ein galluogi i weld gwasanaethau yn y modd y maent fel arfer yn gweithredu. Nid yw'r gwasanaeth yn derbyn unrhyw rybudd ymlaen llaw ar gyfer arolygiad dirybudd.

Cynhelir ein harolygiadau gan o leiaf un arolygydd AGIC, adolygydd allanol (gyda phrofiad proffesiynol perthnasol) ac adolygydd lleyg gwirfoddol (i siarad â chleifion am eu profiadau gofal).

Mae'r dogfennau canlynol yn rhoi arweiniad ar yr hyn y byddwn yn edrych arno yn ystod arolygiad. Os hoffech gopi o ein llyfr gwaith arolygu, cysylltwch â hiwinspections@llyw.cymru yn egluro pa fath o weithlyfr rydych yn eisiau.

Dogfennau