Neidio i'r prif gynnwy

Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid – Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Iechyd 2017-18

Adroddiad ar y cyd rhyngom ni ac Arolygiaeth Gofal Cymru.

Dyma'r nawfed adroddiad monitro ar weithrediadau'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yng Nghymru.

Beth yw colli rhyddid?

Colli rhyddid yw:

  • pan fo person dan oruchwyliaeth a rheolaeth barhaus neu lwyr, ac
  • nid yw'n rhydd i adael, ac
  • nid oes ganddo'r gallu i roi caniatâd i'r trefniadau hyn.

Beth yw'r trefniadau diogelu?

Mae'r trefniadau'n bodoli i rymuso a diogelu unrhyw unigolyn ag anhwylder meddyliol, lle mae amheuaeth ynghylch ei alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ei ofal pan fo'n glaf yn yr ysbyty, neu'n breswyliwr mewn gofal cartref.