Neidio i'r prif gynnwy

Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid: Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2016-17

Adroddiad ar y cyd rhyngom ni ac Arolygiaeth Gofal Cymru.

Dyma'r wythfed adroddiad monitro ar weithrediadau'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yng Nghymru.

Beth yw colli rhyddid?

Colli rhyddid yw:

  • pan fo person dan oruchwyliaeth a rheolaeth barhaus neu lwyr, ac
  • nid yw'n rhydd i adael, ac
  • nid oes ganddo'r gallu i roi caniatâd i'r trefniadau hyn.

Beth yw'r trefniadau diogelu?

Mae'r trefniadau'n bodoli i rymuso a diogelu unrhyw unigolyn ag anhwylder meddyliol, lle mae amheuaeth ynghylch ei alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ei ofal pan fo'n glaf yn yr ysbyty, neu'n breswyliwr mewn gofal cartref.

Canfyddiadau

Nid yw'r anghysondebau parhaus o ran ceisiadau ac awdurdodiadau ledled Cymru'n cynnig fawr o sicrwydd bod rhyddid unigolion sy’n agored i niwed yn cael ei ddiogelu mewn modd dibynadwy ledled Cymru. 

Gall diffyg arweiniad cenedlaethol diweddar ac ymateb anghyson gan gyrff goruchwylio fod yn arwain at geisiadau anaddas neu ddiangen gan awdurdodau rheoli, neu fethu â nodi pryd mae angen cyflwyno cais.