Neidio i'r prif gynnwy

Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid: Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2013-14

Casgliadau allweddol ynglŷn â’r modd y gweithredwyd y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn ystod 2013-14.

Hwn yw’r pumed adroddiad blynyddol ar y modd y gweithredir y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yng Nghymru. Adroddiad ar y cyd yw hwn rhwng  Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).

Beth yw’r Trefniadau Diogelu?

Mae’r Trefniadau Diogelu yn bodoli i alluogi ac amddiffyn unrhyw unigolyn sydd ag anhwylder meddyliol, lle y mae amheuaeth ynglŷn â’i alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ei ofal, pan fydd yn glaf mewn ysbyty neu’n breswyliwr mewn cartref gofal.

Casgliadau allweddol

  • Mae’r ymwybyddiaeth o Drefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid a’r broses o wneud cais wedi cynyddu, ond mae angen gwneud mwy.
  • Mae amrywiaeth sylweddol yn parhau yn y modd mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yn cyflawni eu rôl fel cyrff goruchwylio.
  • Mae nifer yr adolygiadau o awdurdodiadau Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid wedi parhau’n isel ar draws yr awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd. Adolygwyd llai na 10% o’r holl awdurdodiadau Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn 2013/14. Dim ond 25 o adolygiadau a gofnodwyd yn ystod y flwyddyn hon, sef 8% o gyfanswm yr awdurdodiadau.
  • Bu cynnydd yn 2013/14 yn y nifer o bobl a dderbyniodd gefnogaeth gan Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Er i’w defnydd gynyddu yn 2013/14, roedd y nifer o weithiau yr aed at Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol yn parhau i fod yn isel iawn. Mae angen gwneud mwy o hyd i godi ymwybyddiaeth o rôl bwysig Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol mewn perthynas â’r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.