Neidio i'r prif gynnwy

Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid: Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2014-15

Adroddiad ar y cyd rhyngom ni ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW).

Hwn yw’r chweched adroddiad blynyddol ar y modd y gweithredir y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yng Nghymru.

Beth yw’r Trefniadau Diogelu?

Mae’r Trefniadau Diogelu yn bodoli i alluogi ac amddiffyn unrhyw unigolyn sydd ag anhwylder meddyliol, lle y mae amheuaeth ynglŷn â’i alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ei ofal, pan fydd yn glaf mewn ysbyty neu’n breswyliwr mewn cartref gofal.

Casgliadau

  • Cynyddodd nifer y ceisiadau ar gyfer y trefniadau diogelu dros 16 gwaith o'u cymharu â'r flwyddyn flaenorol, o 631 o geisiadau yn 2013-2014 i 10,679 o geisiadau yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2014 a mis Mawrth 2015.
  • O ran y gyfradd fesul 100,000 o'r boblogaeth, mae amrywiadau rhanbarthol a lleol yn parhau, ac mae'r gyfradd isaf o 35.5 yng Nghyngor Sir Wrecsam, a'r cyfraddau mwyaf yng nghynghorau sir Caerfyrddin a Dinas Abertawe, gyda 561.4 a 556.6 yn eu tro.
  • O'r  10,679 o geisiadau, roedd 74% yn awdurdodiadau brys a 26% yn awdurdodiadau safonol. O'r ceisiadau a gafodd eu prosesu, ni chafodd 66% o geisiadau mewn ysbytai eu hawdurdodi o'i gymharu â 31% mewn cartrefi gofal.
  • Caniateir 21 diwrnod ar gyfer y broses o asesu awdurdodiad safonol. O edrych ar y targed o 21 diwrnod, o'r ceisiadau hynny lle cafodd y broses ei chwblhau, ni chwblhawyd 56% (3,057) o geisiadau o fewn 21 diwrnod o'u cyflwyno. Roedd 43% (4,613) o geisiadau a dderbyniwyd yn ystod 2014-2015 yn parhau heb eu cwblhau ar ddiwedd mis Mawrth 2015.
  • Mae nifer y ceisiadau sy’n cael eu prosesu o fewn 21 diwrnod wedi cynyddu ymron i ddeg gwaith, o 562 yn 2013-2014 i 5,424 yn 2014-2015.
  • Mae cyfnod amser dilysrwydd awdurdodiadau wedi cynyddu’n gyffredinol, gyda 55% o awdurdodiadau'n ddilys am flwyddyn yn 2014-2015 o'i gymharu â dim ond 1% yn 2013-2014.
  • Mae nifer yr adolygiadau wedi parhau'n isel, gydag ond 1% o awdurdodiadau Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid wedi cwblhau adolygiad yn 2014-2015, o'i gymharu ag 8% yn 2013-2014.
  • Cododd nifer y ceisiadau a wnaed i'r Llys Gwarchod o ddau yn 2013-2014 i ddeg yn 2014-2015.