Neidio i'r prif gynnwy

Ffurflen Awgrymu Pwnc Adolygiad AGIC

Defnyddiwch y ffurflen isod i gysylltu â ni gyda'ch awgrymu

Diben AGIC yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael gofal iechyd o ansawdd da. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn ceisio sicrhau bod gwasanaethau'n darparu gofal diogel ac effeithiol sy'n bodloni safonau cydnabyddedig. Drwy ein gwaith rydym yn ceisio rhoi tawelwch meddwl, hyrwyddo gwelliant a dylanwadu ar bolisi a safonau.

Yn ogystal ag archwiliadau o leoliadau unigol, rydym yn cynnal adolygiadau cenedlaethol a adolygiadau lleol o bynciau penodol. Ceir enghreifftiau o'n hadolygiadau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gael.

Mae sawl ffactor sy'n ein helpu i benderfynu pryd i wneud adolygiad. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth gan reoleiddwyr neu arolygwyr eraill, a gwybodaeth o bryderon neu gwynion. Rydym hefyd yn annog pobl i roi sylwadau i ni ar yr hyn y dylem eu hystyried.

Er mwyn ein helpu, llenwch y ffurflen isod. Disgrifiwch sut y mae'r pwnc yr hoffech i ni ei ystyried yn ymwneud â diogelwch cleifion, a darparwch unrhyw fanylion perthnasol a allai ein helpu i ddeall y pwnc a dysgu mwy am y wybodaeth a ddarparwyd gennych. Ni ddylai'r ffurflen hon gynnwys unrhyw wybodaeth bersonol, y gellid ei defnyddio i adnabod rhywun, ac eithrio'r manylion cyswllt dewisol isod.

Caiff eich cynnig ei adolygu gan ein Bwrdd Llywio Adolygiad ar ddiwedd bob mis. Mae'r grŵp hwn yn adolygu ac yn blaenoriaethu pynciau ac yn gwneud argymhellion ynglŷn â gwaith pellach.  Ein Pwyllgor Risg ac Uwchgyfeirio fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Gallwch gael rhagor o sut rydym yn gweithredu

Os byddwch yn teimlo bod angen gweithredu'n fwy ar eich mater ar unwaith, neu os bydd gennych bryder am leoliad unigol neu benodol, defnyddiwch ein proses pryderon.

Os cewch unrhyw anawsterau gan ddefnyddio'r ffurflen isod, e-bostiwch: agic@llyw.cymru