Beth yw ymbelydredd ïoneiddio ym maes gofal iechyd?
Defnyddir ymbelydredd ïoneiddio ym maes gofal iechyd mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol a gellir ei rannu i dri chategori eang:
- Delweddu diagnostig: e.e. defnyddio pelydrau-x i dynnu lluniau o ddannedd ac esgyrn mewn deintyddfeydd ac ysbytai
- Radiotherapi: e.e. i drin clefydau megis mathau penodol o ganser
- Meddygaeth niwclear: e.e. defnyddio symiau bach o ddeunydd ymbelydrol i ddiagnosio amrywiaeth o glefydau ac annormaleddau eraill yn y corff, pennu pa mor ddifrifol ydynt a'u trin.
Mae'n rhaid i bob sefydliad gofal iechyd sy'n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio gydymffurfio â Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cysylltiad Meddygol) 2017, a’r diwygiadau dilynol a wnaed iddynt (2018).
Pwy rydym yn eu harolygu
Rydym yn arolygu sefydliadau gofal iechyd annibynnol sy'n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio at ddibenion meddygol yng Nghymru er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn ddiogel i'r bobl sy'n cael triniaeth.
Sut rydym yn monitro cydymffurfiaeth
Mae AGIC yn gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth ag IR(ME)R, ac rydym yn gwneud hyn drwy:
- Arolygu sefydliadau sy'n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio
- Adolygu digwyddiadau a hysbyswyd i ni sy'n arwain at amlygiad ychwanegol neu anfwriadol
- Ystyried sut mae deintyddfeydd yn cydymffurfio ag IR(ME)R fel rhan o'n harolygiadau o ddeintyddfeydd
Sut rydym yn cynnal arolygiadau
Rydym yn edrych ar y ffordd y mae gwasanaethau yn gwneud y canlynol:
- Cydymffurfio â’r Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Amlygiad Meddygol) (IR(ME)R)
- Cyrraedd y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Gofal Iechyd Annibynnol yng Nghymru
- Cydymffurfio â Deddf Safonau Gofal 2000
- Cydymffurfio â Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011
- Cyrraedd unrhyw safonau a chanllawiau proffesiynol perthnasol eraill (lle y bo’n gymwys)
Fel arfer, rhoddir rhybudd am ein harolygiadau o wasanaethau gofal iechyd sy’n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio. Mae gwasanaethau'n cael hyd at 12 wythnos o rybudd am arolygiad.
Cynhelir yr arolygiadau gan o leiaf un o arolygwyr AGIC ac fe’u cefnogir gan un o Uwch-swyddogion Clinigol Public Health England, sy’n gweithredu fel cynghorydd.
Mae'r dogfennau canlynol yn rhoi canllawiau ar yr hyn y byddwn yn ei ystyried yn ystod arolygiad.
Dogfennau
-
Sut rydym yn arolygu gwasanaethau annibynnol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 429 KBCyhoeddedig:429 KB