Neidio i'r prif gynnwy

Uwchgynhadledd Gofal Iechyd

Mae cyfarfodydd Uwchgynhadledd Gofal Iechyd yn cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn er mwyn rhoi cyfle i gyrff gwella, rheoleiddio, arolygu ac archwilio drafod â'i gilydd.

Maent yn darparu fforwm rhyngweithiol ar gyfer rhannu gwybodaeth am ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd a ddarperir gan GIG Cymru. Dyma'r canlyniadau a ragwelir: 

  • Cydberthnasau gwaith agosach a rhannu gwybodaeth rhwng y sefydliadau sy'n cymryd rhan
  • Mae rhaglenni gwaith y sefydliadau sy'n cymryd rhan yn cael eu llywio gan y wybodaeth a rennir ac yn adlewyrchu dull ar y cyd o fynd i'r afael â meysydd sy'n peri pryder a/neu feysydd sydd angen eu datblygu 
  • Cytunir ar bryderon risg uchel ar y cyd a'u rhannu ym mhob cyfarfod Uwchgynhadledd. Efallai y caiff y canlyniad ei ddefnyddio i lunio adborth i Gyfarwyddwr Cyffredinol y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, a Phrif Weithredwr GIG Cymru, a'r Prif Weithredwr priodol gan berson sy'n bresennol yn yr Uwchgynhadledd, fel sy'n briodol 
  • Mynd ati'n rhagweithiol i gynnal gwaith sicrwydd neu gamau yn erbyn pryderon neu faterion, gan ddefnyddio pwerau gorfodi arbennig Llywodraeth Cymru, Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru  neu'r broses Dwysáu ac Ymyrryd lle y bo'n briodol 
  • Mae sefydliadau sy'n cymryd rhan yn cydweithredu ac yn cydweithio gyda chyfoedion a rhanddeiliaid wrth i ni chwarae ein priod rolau wrth lywio'r gwaith o wella gofal iechyd yng Nghymru. 

Dyma'r sefydliadau sy'n cymryd rhan ar hyn o bryd:- 

  • Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)
  • Llais
  • Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
  • Uned Gyflawni GIG Cymru (DU) 
  • Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)
  • Gwasanaethau Atal Twyll yng Nghymru – GIG (NCFSW) 
  • Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) 
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru – Gwella Gwasanaethau (PHW) 
  • Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) 
  • Archwilio Cymru (AW) 
  • Gwasanaethau Cronfa Risg Cymru (WRPS)
  • Y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC)
  • Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC) 
  • Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) 
  • Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC)
  • Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) 
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW)