Daeth Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008 i rym ar 9 Ionawr 2009. Mae’r Rheoliadau hyn yn berthnasol i drefniadau sy’n sail i’r gwaith o sicrhau bod cyffuriau a reolir yng Nghymru yn cael eu rheoli a’u defnyddio’n ddiogel.
Mae rhan dau’r Rheoliadau yn ymwneud â Swyddogion Atebol. Rhaid i gyrff gofal iechyd, sy’n cynnwys Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG ac Ysbytai Annibynnol yng Nghymru, benodi Swyddogion Atebol. Y swyddogion hyn sy’n gwneud y trefniadau sy’n gysylltiedig â’r rheoliadau, gan gynnwys trefniadau gwaredu diogel a threfniadau archwilio.
Yn ogystal, mae’r Swyddogion Atebol yn gyfrifol am bobl eraill y mae eu gwaith yn ymwneud â chyffuriau a reolir yn eu corff gofal iechyd. Mae’r cyfrifoldebau hynny’n cynnwys cadw cofnodion o’r pryderon yr ymchwilir iddynt, a chymryd camau gweithredu lle bo’n briodol.
Wrth asesu pryder, bydd y Swyddog Atebol yn penderfynu a oes angen cynnal ymchwiliad. Gall ymchwilio i’r mater yn bersonol neu ofyn i weithiwr arall gynnal ymchwiliad. Mewn rhai achosion, gall ofyn i swyddogion neu weithwyr o gyrff cyfrifol eraill gynnal ymchwiliad neu ymchwiliad ar y cyd.
Mae angen i Swyddogion Atebol sicrhau bod hunanasesiadau’n dod i law gan yr Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol sydd ar restr eu corff gofal iechyd o gyflawnwyr gwasanaethau meddygol, a phan ofynnir iddynt, rhaid iddynt fod yn barod i ddarparu’r wybodaeth hon a gwybodaeth gysylltiedig i AGIC. Yn ogystal, mae Swyddogion Atebol y Byrddau Iechyd Lleol yn gyfrifol am sefydlu Rhwydweithiau Gwybodaeth Lleol ar gyfer eu hardal, sydd hefyd yn ymwneud â rheoli a defnyddio cyffuriau a reolir.
Ceir cyfyngiadau ar bwy all fod yn Swyddog Atebol, ac mae’n rhaid i gyrff gofal iechyd ein hysbysu pan fydd unigolyn yn cael ei enwebu’n Swyddog Atebol neu pan fydd unigolyn yn gadael y rôl honno.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau cyffuriau rheoledig cysylltwch â'ch Swyddog Atebol lleol
Swyddogion Atebol am Cyffuriau a Reolir
Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008 | ||
Swyddogion Atebol am Cyffuriau a Reolir | ||
SEFYDLIAD | SWYDDOGION ATEBOL | SWYDD |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan | Jonathan Simms MRPharmS | Cyfarwyddwr Clinigol y Fferyllfa |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr | Lois Lloyd | Prif Fferyllydd |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro | Timothy Banner | Cyfarwyddwr Fferylliaeth a Rheolaeth Meddyginiaeth |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg | Hannah Wilton | Prif Fferyllydd & Cyfarwyddwr Clinigol am Rheolaeth Meddyginiaeth |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda | Mr Mark Henwood | Cyfarwyddwr Meddygol |
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys | Mrs Jaqueline Seaton | Prif Fferyllydd |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe | Judith Vincent | Cyfarwyddwr Clinigol Fferylliaeth |
Ymddiriedolaeth GIG Felindre | Mrs Andrea Hague | Cyfarwyddwr Gwasanaethau Canser |
Welsh Ambulance Services NHS Trust | Mr Andy Swinburn | Cyfarwyddwr Parafeddygaeth |
Ysbyty Aberbeeg | Jessica Wilson | Cyfarwyddwr Ysbyty |
Aderyn | Keith Barry | Cyfarwyddwr Ysbyty |
Bpas Cardiff | Sara Hartland | Ymarferydd Nyrsio |
Cefn Carnau | Laura Pocock | Rheolwr Gwasanaethau Clinigol |
CRGW | Ann Louise Lane | Cyfarwyddwr Clinigol |
Coed Du Hall | Lindsey Garner | Cyfarwyddwr Ysbyty |
Delfryn House | Shanti Tanti | Cyfarwyddwr Ysbyty |
Hafan Wen | TBC | TBC |
Heatherwood Court | Olivia Ferrari | Cyfarwyddwr Ysbyty |
Kensington Court Clinic | Dr Phil Majoe | Cyfarwyddwr Clinigol |
Llanarth Court Hospital | Cerys Morris | Cyfarwyddwr Ysbyty |
Clinig Menywod Llundain Cymru | Helen Lloyd | Nyrs Gofrestredig |
Marie Curie Hospice | Melanie Andrews | Pennaeth Gweithrediadau Cymru |
National Slimming and Cosmetic Clinics | Linda Godwin | Rheolwr Ysbyty |
Nightingale House Hospice | Mrs Tracy Livingstone | Rheolwr Cofrestredig |
Optical Express Park Place Cardiff | Mary Spellman | Rheolwr Cofrestredig |
Parkway Clinic | Dr Phil Majoe | Cyfarwyddwr |
Ysbyty Pinetree Court | Claire Wilson | Arweinydd Clinigol |
Regis Healthcare | Andrew Balmforth | Rheolwr Ysbyty dros dro |
Rushcliffe Care Group | Carwyn Price | Rheolwr Cofrestredig |
Sancta Maria Hospital | Tracy Ace | Pennaeth Gwasanaethau Clinigol |
Shalom House | Allyson Burrows | Rheolwr Cofrestredig |
Ysbyty Spire Cardiff | TBC | TBC |
Ysbyty Spire Yale | Angie Wallace | Cyfarwyddwr Ysbyty |
St Anne's Hospice | Karen Hughes | Uwch -Reolwr |
St Davids Hospice | Trystan Pritchard | Prif Weithredwr |
Ysbyty Dewi Sant | Linda Hull | Rheolwr Ysbyty |
St Josephs Hospital | Stuart Hammond | Prif Swyddog Gweithredol |
St Kentigern | Joyce Bellingham | Rheolwr Ysbyty |
St Peters | Claire Wilson | Rheolwr Cofrestredig |
St Teilo House | Byron Mtandabari | Rheolwr Ysbyty |
The Weight Loss Doctor | Dr Ariba Khan | Rheolwr Cofrestredig |
Tŷ Catrin | Paul Stewart Davies | Cynghorydd Nyrsio Clinigol |
Tŷ Cwm Rhondda | Rhiannon Davies | Rheolwr Ward |
Tŷ Gobaith | Kate Jones | Pennaeth Gofal |
Tŷ Grosvenor | Christy McAteer | Rheolwr Ward |
Tŷ Gwyn Hall | Kwesi Hazel | Rheolwr Gwasanaethau Clinigol |
Tŷ Hafan | Hayley Humphries | Rheolwr Cofrestredig |
Nuffield Health Ysbyty Bae Caerdydd | Rob Thomas | Rheolwr Cofrestredig dros dro |
Ysbyty Bae Caerdydd a’r Vale | Rob Thomas | Rheolwr Cofrestredig dros dro |
Ysbyty Werndale | Jacky Jones | Cyfarwyddwr Gweithredol |