Neidio i'r prif gynnwy

Pwy sydd angen cofrestru gyda ni?

Os hoffech ddarparu'r gwasanaethau canlynol mewn sefydliad (lleoliad sefydlog) yng Nghymru mae'n bosibl y bydd angen i chi gofrestru â ni cyn y gallwch wneud hynny.

  • Practisau deintyddol preifat
  • Gwasanaethau gofal iechyd annibynnol
    • Ysbytai annibynnol
    • Clinigau annibynnol
    • Asiantaethau meddygol annibynnol

Gallwch gofrestru naill ai fel unigolyn (unig fasnachwr) neu fel sefydliad (cwmni cyfyngedig).

Practisau deintyddol preifat

Mae practisau deintyddol preifat yng Nghymru yn cynnwys:

  • Practisau deintyddol sy'n darparu unrhyw ofal deintyddol preifat
  • Gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol sy'n darparu gwasanaethau mynediad uniongyrchol preifat o'u practis eu hunain (hylenwyr deintyddol, therapyddion deintyddol a thechnegwyr deintyddol clinigol)

Gwasanaethau gofal iechyd annibynnol

Mae gwasanaethau gofal iechyd annibynnol yng Nghymru yn cynnwys:

  • Ysbytai annibynnol – sefydliadau nad ydynt yn rhan o'r GIG yng Nghymru sy'n darparu'r canlynol:
    • Triniaeth feddygol neu seiciatrig neu ofal lliniarol ynghyd â gwelyau (dros nos) i gleifion mewnol
    • Gwasanaethau rhestredig (ni waeth os caiff gwelyau eu darparu ar gyfer cleifion mewnol) sy'n cynnwys y defnydd o beiriannau laser dosbarth 3B/4; y defnydd o beiriannau Goleuni Pwls Dwys; enwaedu bechgyn; haemodialysis neu ddialysis peritoneaidd; endosgopi; therapi hyperbarig; IVF.
    • Triniaeth neu ofal nyrsio (neu'r ddau) ar gyfer unigolion a allai gael eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
  • Clinigau annibynnol – sefydliadau yng Nghymru lle y caiff gwasanaethau meddygol preifat yn unig eu darparu'n rheolaidd gan ymarferwyr meddygol (personél sydd wedi'u cofrestru â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol)
  • Asiantaethau meddygol annibynnol - gwasanaeth nad yw’n sefydliad sefydlog (o bell/ar-lein) lle darperir gwasanaethau meddygol preifat yn unig gan ymarferwyr meddygol yn rheolaidd (personél sydd wedi'u cofrestru â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol), naill ai'n unigol neu ar ran cwmni, sydd wedi'i leoli yng Nghymru.

Oes angen i mi gofrestru ag AGIC?

Caiff gwasanaethau gofal iechyd eu darparu mewn sawl ffordd wahanol, a hynny gan amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.  Rydym wedi llunio gwybodaeth am pwy sydd angen cofrestru â ni. Canllaw cyffredinol yn unig yw hwn. Dylech gwblhau ffurflen ymholiad cofrestru ac anfon drwy e-bost i  agic.cofrestru@llyw.cymru. Bydd aelod o'r tîm Cofrestru yn adolygu'r wybodaeth ac yn darparu ymateb ysgrifenedig o ran p'un a yw'n ofynnol i chi gofrestru ai peidio.  Byddwn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut i gofrestru.

Rydym hefyd wedi datblygu rhai cwestiynau cyffredin i helpu i ateb eich ymholiadau ynglŷn â chofrestru. O ofal deintyddol i laser, dylai ein Cwestiynau Cyffredin eich helpu i gael atebion ar unwaith.

Y gyfraith

Mae'n rhaid i bob practis deintyddol preifat, practis mynediad uniongyrchol preifat a gwasanaeth gofal iechyd annibynnol gofrestru â ni fel sy'n ofynnol yn gyfreithiol gan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Deddfwriaeth practis deintyddol preifat

Deddfwriaeth gofal iechyd annibynnol

Dogfennau